Mae carreg sy’n nodi bedd rhieni Adolf Hitler mewn pentref yn Awstria wedi cael ei dynnu oddi yno, ar gais aelod o’r teulu.

Dywedodd Maer Leonding, Walter Brunnerm, nad oedd yn dymuno gweld y garreg fedd yn denu neo-Natsiaid.

Cafodd yr unben Almaenig ei eni yn Braunau, tref gerllaw Leonding. Ond fe dreuliodd ei ieuenctif yn Leonding, rhyw chwe milltir i’r de-ddwyrain o ddinas Linz.

Dywedodd Brunner nad oedd ganddo unrhyw fanylion pellach am y perthynas, ond ei fod yn hapus gyda’i phenderfyniad.

Nawr bod y garreg wedi ei chodi, fe fydd y bedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer claddedigaeth arall.

Yn ôl y Maer, roedd eithafwyr adain dde yn ymweld yn rheolaidd â bedd Klara ac Alois Hitler, er mwyn gadael blodau a sloganau Natsiaidd.