Maes Awyr Sulaimaniyah
Mae Prydeiniwr, Americanwr a dyn busnes o Sbaen ymysg saith o bobol fu farw mewn damwain awyren yng ngogledd Irac.

Roedd y tri yn hedfan â dyn busnes o Irac, oedd yn aelod o fwrdd gweithredol cwmni ffonau symudol AsiaCell y wlad, fu farw yn y ddamwain.

Dywedodd y cwmni fod y criw – dau ddyn o Wlad Iorddonen a dyn o Libanus – hefyd wedi marw.

Fe aeth injan yr awyren ysgafn ar dân ar ôl iddo adael Maes Awyr Sulaimaniyah, 160 milltir i’r gogledd o Faghdad.

Ceisiodd lansio cyn chwalu mewn storm eira.

Roedd yr awyren ar ei ffordd i brifddinas Twrci, Ankara.

Mae’r awdurdodau wedi beio diffyg mecanyddol am y ddamwain.