Yr orsaf ofod
Bu’n rhaid i’r gofodwr ar orsaf ISS fynd i loches capsiwl achub am gyfnod byr dros nos wrth i weddillion roced Rwsieg ddod yn rhy agos at yr orsaf.

Dywedodd llefarydd ar ran NASA mai siawns fechan oedd yna y buasai’r darn yn taro’r orsaf ond roedd yn rhaid gweithredu er mwyn diogelwch y gofodwyr meddai.

Dyma’r trydydd tro mewn 12 mlynedd i weddillion rocedi a lloerenni ddod yn rhy agos i’r orsaf . Daeth un darn o fewn 335m (1,100 troedfedd) i’r orsaf ym mis Mehefin llynedd.

Mae miloedd o ddarnau o weddillion rocedi ac yn y blaen yn cylchdroi’r ddaear  yn gyflym wedi  degawdau o deithio i’r gofod. Dywed NASA eu bod nhw yn cadw llygad ar dros 22,000 o ddarnau o sbwriel.

Mae rhai yn dweud ei bod bellach yn amser clirio’r swbriel o’r gofod cyn i ddamwain ddifrifol ddigwydd.