Whitney Houston
Boddi mewn bath wnaeth Whitney Houston, yn ôl crwner yn America. Ond roedd afiechyd ar ei chalon a chocên wedi cyfrannu at ei marwolaeth hefyd, meddai.

Mae’r cyhoeddiad yn rhoi taw ar wythnosau o gleber am y rhesymau dros farwolaeth y gantores enwog ar Chwefror 11.

 Cafwyd hyd i gorff y fam 48 oed mewn bath yng Ngwesty’r Beverley Hilton yn Los Angeles.

 Yn ôl y crwner roedd hi’n amlwg o ganlyniadau profion ar gorff Houston ei bod yn ddefnyddiwr brwd o’r cyffur cocên.