Safle'r saethu yn Toulouse
Mae dyn sy’n cael ei amau o lofruddio Rabbi, tri phlentyn Iddewig, a thri milwr Ffrengig, wedi marw yn Touluse.

Cadarnhaodd y gweinidog mewnol ei fod wedi marw, ar ôl saethu at yr heddlu a neidio o ffenestr.

Roedd y saethwr, sydd â chysylltiadau ag al Qaida, wedi bod yn cuddio mewn tŷ ar gyrion y ddinas am dros 30 awr.

Clywyd ffrwydradau a saethu yn gynharach, ac nid oedd yn amlwg ai’r heddlu yntau’r dyn 24 oed oedd yn gyfrifol.

Yn gynharach y bore ’ma, dywedodd gweinidog mewnol Ffrainc nad oedd y dyn wedi bod yn ymateb i ymgais yr awdurdodau i gysylltu ag ef, a’i bod hi’n bosib ei fod wedi gwneud amdano’i hun.

Dywedodd yr awdurdodau nad oedd Mohamed Merah, a oedd wedi bod yn gaeth yn y fflat ers dros 30 awr, wedi cysylltu â’u swyddogion ers neithiwr.

Roedd y saethwr yn dweud ei fod yn ceisio “tynnu Ffrainc i’w gliniau” fel rhan o’i ymgyrch Islamaidd radical.

Mae’r awdurdodau lleol yn dweud fod Merah, sy’n Ffrancwr o dras Algeria, yn credu mewn math radical iawn o Islam a’i fod wedi bod  yn Afghanistan a Phacistan yn derbyn hyfforddiant gan al Qaida.

Roedd gweinidog mewnol Ffrainc wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai’r dyn yn cael ei “ddal yn fyw.”