Mae milwr o Brydain wedi cael ei ladd mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand yn Afghanistan,  meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd y milwr yn yr ail fataliwn yng nghatrawd Mercian. Roedd yn gweithio gyda patrôl lluoedd diogelwch Afghanistan pan ffrwydrodd y bom.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.