Gabrielle Giffords
Mae gŵr y cyngreswraig Gabrielle Giffords wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i fynd i’r gofod ym mis Ebrill.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran NASA y bydd y gofodwr Mark Kelly ar y wennol ofod Endeavour ar ei thaith olaf i’r gofod.

Fe fydd Mark Kelly yn cynnal cynhadledd i’r wasg yng Nghanolfan Ofod Johnson yn hwyrach ymlaen heddiw.

Cymerodd hoe o’i hyfforddiant ar gyfer y daith ar ôl i’w wraig gael ei saethu yn eu phen yn Tuscon, Arizona, ar 8 Ionawr.

Mae hi wedi ei symud o ysbyry yn Tuscon i Houston.

Mae disgwyl i Endeavour lansio ar ei thaith pythefnos o hyd ar 19 Ebrill.