Yr ymosodiad tu allan i ysgol Iddewig ddydd Llun
Yn Ffrainc, mae’r heddlu wedi amgylchynu tŷ dyn sy’n cael ei amau o ladd pedwar o bobl mewn ysgol Iddewig, a thri milwr mewn ymosodiadau ar wahan.

Mae gynnau wedi cael eu tanio ac mae’r heddlu’n ceisio trafod gyda’r dyn ar hyn o bryd.

Mae tri o blismyn wedi cael eu hanafu yn ystod y cyrch ar y tŷ yn ninas Toulouse.

Yn ôl gweinidog yn y Llywodraeth Claude Gueant, mae’r dyn yn 24 oed, yn Ffrancwr Mwslimaidd ac yn honi bod ganddo gysylltiadau â al Qaida.

‘Dial’

Mae’n debyg bod y dyn eisiau “dial” am ladd plant Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol.

Dywedodd Claude Gueant bod brawd y dyn wedi cael ei arestio.

Roedd y dyn yn hysbys i’r awdurdodau am ei fod wedi treulio amser yn Afhganistan a Pacistan.

Fe gyrhaeddodd yr heddlu’r tŷ dros nos ac mae’n debyg bod y dyn wedi tanio gwn at y drws gan anafu plismon.

Daethpwyd â mam y dyn  i’r safle er mwyn ceisio ei chael i helpu gyda’r trafodaethau ond mae’n debyg ei bod wedi gwrthod gan ddweud nad oedd ganddi “fawr o ddylanwad drosto.”

Cyrff yn cael eu cludo i Israel

Yn y cyfamser mae cyrff y tri phlentyn a’r rabi gafodd eu saethu’n farw tu allan i ysgol Iddewig yn Toulouse ddydd Llun, wedi cael eu cludo i Israel i’w claddu.

Fe gyrhaeddodd yr awyren yn cludo’r Rabi Jonathan Sandler, ei feibion Gabriel, 3, ac Arieh, 5, ynghyd â Myriam Monsenego, 8, merch pennaeth yr ysgol, yn gynnar bore ma.