Arlywydd Nicolas Sarkozy
Yn Ffrainc mae’r chwilio’n parhau am ddyn arfog oedd wedi saethu pedwar o bobl yn farw tu allan i ysgol Iddewig yn Toulouse.

Fe fydd munud o dawelwch i gofio’r rhai gafodd eu lladd – y Rabi Johnathan Sandler, 30, ei ddau fab ifanc, a phlentyn naw oed.

Roedd y dyn arfog ar feic modur ac wedi dechrau saethu at oedolion a phlant oedd newydd gyrraedd ysgol Ozar Hatorah am 8am bore ddoe.

Mae ’na bryderon mai’r digwyddiad yw’r diweddara mewn cyfres o lofruddiaethau hiliol yn y wlad.

Mae’n debyg bod y gwn a ddefnyddion y dyn arfog ddoe’r un fath â’r un gafodd ei ddefnyddio mewn dau ymosodiad yn yr ardal wythnos ddiwethaf pan gafodd tri o filwyr o dras gogledd Affrica a Caribïaidd eu saethu’n farw.

Dywed yr Arlywydd Nicolas Sarkozy bod y rhybudd terfysgaeth wedi cael ei godi i’w lefel uchaf a bod mesurau diogelwch mewn ysgolion a sefydliadau crefyddol wedi cael eu tynhau.

Mae hil a chrefyddau lleiafrifol wedi dod dan y chwyddwydr yn ystod ymgyrch arlywyddol Ffrainc.

Ym Mharis death 5,000 o bobl ynghyd yn y Place de la Republique i gofio’r rhai gafodd eu lladd yn Touolouse. Undeb Myfyrwyr Iddewig Ffrainc oedd wedi trefnu’r digwyddiad.