Mae tad, ei ddau fab, a phlentyn arall wedi cael eu saethu’n farw tu allan i’w hysgol yn Ffrainc gan ddyn arfog.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 8am, cyn i wersi ddechrau mewn ysgol Iddewig yn ninas Toulouse.
Erbyn hyn mae mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau ym mhob ysgol ac adeilad crefyddol ar draws y wlad ac nid ysgolion Iddewig yn unig, cyhoeddodd llefarydd ar ran y Llywodraeth.
Yn ôl erlynydd Toulouse, Michel Valet, cafodd dyn 30 oed, a’i feibion 3 a 6 oed, eu lladd yn yr ymosodiad tu allan i ysgol Ozar Hatorah. Mae’n debyg bod plentyn arall rhwng 8 a 10 oed hefyd wedi cael ei ladd, a bod person 17 oed wedi eu hanafu’n ddifrifol.
Dywedodd Michel Valet: “Roedd dyn wedi cyrraedd yr ysgol ar feic modur neu sgwter cyn dechrau tanio gwn at bawb oedd o’i flaen, gan gynnwys plant ac oedolion. Cafodd y plant eu hel i mewn i’r ysgol.”
Roedd y dyn wedi dianc o’r safle ar ei feic modur.
Mae’r Arlywydd Sarkozy wedi cyrraedd Toulouse ac wedi disgrifio’r digwyddiad fel “trasiedi ofnadwy”. Mae llywydd CRIF, y grŵp sy’n cynrychioli sefydliadau Iddewig, wedi teithio i’r ddinas gyda’r Arlywydd.
Saethu milwyr
Daw’r ymsodiad wythnos yn unig ar ôl i ddyn arfog ar feic modur danio gwn at dri o awyrfilwyr yn yr ardal ddydd Iau diwethaf, gan ladd dau ac anafu un arall.
Roedd yr ymsodiad wedi digwydd yn nhref Montauban sydd yn agos at farics y milwyr.
Ychydig ddyddiau cyn hynny, roedd dyn arfog ar feic modur wedi saethu’n farw milwr arall yn Toulouse, tua 30 milltir i ffwrdd.
Yn ôl yr awdurdodau roedd profion fforensig yn dangos bod yr un gwn wedi ei ddefnyddio yn y digwyddiad yn Montauban a Toulouse.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd os oes na gysylltiad gyda’r digwyddiad diweddara.