Yn ôl adroddiadau o Ffrainc, mae o leiaf tri o bobl wedi eu lladd, gan gynnwys dau blentyn, ar ôl i ddyn arfog ddechrau tanio gwn atyn nhw tu allan i ysgol Iddewig yn y wlad.

Mae’n debyg bod y saethu wedi digwydd tua 8.10am tu allan i’r ysgol breifat yn Toulouse – sef yr amser pan mae dosbarthiadau yn cychwyn yno. Mae’r heddlu wedi cau’r ardal o amgylch yr ysgol ond mae’n debyg bod y plant yn dal i fod yn yr adeilad.

Mae’r Arlywydd Sarkozy ar ei ffordd i’r ysgol, ynghyd â llywydd CRIF, y grŵp sy’n cynrychioli sefydliadau Iddewig.

Saethu milwyr

Fe ddigwyddodd y saethu yn yr un ardal lle roedd dyn arfog ar feic modur wedi tanio gwn at dri o awyrfilwyr ddydd Iau diwethaf, gan ladd dau ac anafu un arall.

Roedd yr ymsodiad wedi digwydd yn nhref Montauban sydd yn agos at farics y milwyr.

Ychydig ddyddiau cyn hynny, roedd dyn arfog ar feic modur wedi saethu’n farw milwr arall yn Toulouse, tua 30 milltir i ffwrdd.

Yn ôl yr awdurdodau roedd profion fforensig yn dangos bod yr un gwn wedi ei ddefnyddio yn y digwyddiad yn Montauban a Toulouse.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd os oes na gysylltiad gyda’r digwyddiad diweddara.