Yr Arlywydd Assad
Mae lluoedd diogelwch Syria wedi gwrthdaro gyda dynion arfog yn y brifddinas Damascus mewn ardal sy’n gartref i lysgenadaethau a phrif swyddogion.
Yn ôl un sy’n byw yn yr ardal yn Mazzeh, roedd y gwrthdaro wedi para am ddwy awr gan ddod i ben am 4am. Roedd gynnau wedi cael eu tanio, ac yn ôl y llygad-dyst, roedd ffrwydradau i’w clywed hefyd.
Dywedodd bod y gwrthdaro wedi digwydd yn agos at lysgenhadaeth y Swistir a chartref yr Uwchfrigadydd Assef Shawkat, sy’n briod â chwaer yr Arlywydd Bashar Assad.
Ychydig iawn o drafferthion sydd wedi bod yn Namascus ers i’r gwrthryfel yn erbyn yr Arlywydd gychwyn ym mis Mawrth y llynedd. Ond mae’r brifddinas wedi cael ei thargedu yn ddiweddar gydag ymosodiadau bom ar safleoedd diogelwch. Cafodd 27 o bobl eu lladd mewn tri ffrwydrad yn Namascus ddydd Sadwrn.
Yn ôl adroddiadau cafodd 18 o filwyr yr Arlywydd Assad eu hanafu yn y digwyddiad neithiwr.