William Hague
Mae gwaith milwyr Prydain yn Affganistan yn parhau i fod yn “anhygoel o anodd”, mae Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth San Steffan, William Hague, wedi cyfaddef heddiw.

Roedd Mr Hague yn siarad 11 diwrnod ar ôl i chwe milwr o Brydain gael eu lladd mewn ffrwydriad yn Affganistan.

“Ein nod yw amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol ein hunain trwy sicrhau bod yr Affganiaid yn gofalu am eu diogelwch nhw. Gan bwyll, rydym yn cyflawni hynny,” meddai.

Dywedodd bod yn rhaid i Brydain barhau gyda’r dasg “anhygoel o anodd o adeiladu  gwladwriaeth ymarferol yn Affganistan a gwella diogelwch yno.”

Dywedodd fod gweinidogion llywodraeth Prydain yn anghytuno ag agwedd arlywydd Affganistan, Hamid Karzai, at ferched, ond ychwanegodd y byddai’n afrealistig ceisio gosod gwerthoedd Prydeinig ar y wlad.

Mae Arglwydd Ashdown o’r blaid Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhybuddio y gall Affganistan ddirywio i sefyllfa o ryfel gwladol ar ôl i filwyr y glymblaid dynnu nôl o faes y gad ar ddiwedd 2014.

“Mae hyn yn golygu ein bod yn gorffen yn yr union le wnaethon ni ddechrau…ac mae’n dod yn fygythiad unwaith eto,” meddai.