Protest yn yr Yemen
Mae athro o’r Unol Daleithiau wedi cael ei ladd yn ninas Taiz yn yr Yemen.

Roedd yn ddirprwy gyfarwyddwr canolfan iaith Swedaidd yn y ddinas.

Roedd yn gyrru ei gar pan gafodd ei saethu gan ddau ddyn ar feic modur.

Mae’r heddlu lleol wedi dweud mai terfysgwyr sydd â chysylltiad ag al-Qaeda oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae’r Yemen wedi bod mewn stad o anrhefn o ganlyniad i flwyddyn o wrthryfel yn erbyn cyn arweinydd y wlad Ali Abdullah Saleh. Mi wnaeth roi’r gorau i’r arlywyddiaeth y mis diwethaf, ac mae ei ddirprwy, Abdrabbuh Mansour Hadi, wedi cymryd ei le.