Protest yn Syria
Mae 27 o bobl wedi cael eu lladd ym mhrifddinas Syria, Damascus.

Mae 97 hefyd wedi cael eu hanafu mewn dau ffrwydriad bore  ʼma sy’n cael eu disgrifio gan wasanaeth teledu’r wlad fel ymosodiadau “terfysgol”.

Mae adroddiadau yn dweud bod adeiladau yn perthyn i’r heddlu wedi cael eu taro ond does dim modd cadarnhau hynny gan nad yw newyddiadurwyr o dramor yn cael teithio’n rhydd o amgylch Syria ar hyn o bryd.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod mwy na 8,000 o bobl wedi cael eu lladd yn y wlad ers i’r gwrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Bashar al-Assad ddechrau blwyddyn yn ôl.