Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y gallai miliynau o bobol ddioddef yn sgil sychdwr mawr yn Somalia.

Mae’r sychdwr wedi cynyddu nifer y plant newynog, wedi gorfodi miloedd o bobol i symud ac wedi lladd miloedd o anifeiliaid.

“Mae’r sefyllfa yn arswydus. Mae’r bobol yma eisoes yn fregus ac mae hyn wedi gwneud pethau’n waeth,” meddai pennaeth dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Valerie Amos.

“Mae yna broblem fawr, gyfredol yn Somalia. Dydw i ddim am i bobol anghofio am Somalia. Pan mae problem yn parhau am gyfnod hir unrhyw le yn y byd mae’n hawdd i bobol anghofio amdano.”

Y sychdwr yw’r diweddaraf mewn rhestr o broblemau yn Somalia, sydd wedi dioddef o wrthdaro mewnol ers 1991.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae diffyg maeth ymysg plant wedi codi i 30% yn rhanbarth Juba y wlad. Mae pris bwyd wedi codi 80% mewn rhai ardaloedd.

Dywedodd Grainne Moloney, pennaeth uned maeth canolfan y Cenhedloedd Unedig yn Kenya, bod masnachwyr yn cadw bwyd i’w hunain er mwyn elwa ar y sychdwr wrth iddo waethygu.