Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi hedfan i Washington i gynnal trafodaethau gyda’r Arlwydd Barack Obama heddiw.

Mae disgwyl i’r rhyfel yn Afghanistan fod ar frig yr agenda yn y Ty Gwyn yn dilyn marwolaeth chwech o filwyr o Brydain wythnos ddiwethaf, a lladd 16 o bobl yn Afghanistan gan filwr Americanaidd ddydd Sadwrn.

Ond fe fydd yr ymweliad hefyd yn dathlu’r cysylltiadau agos rhwng yr UDA a Phrydain, gyda chinio yn y Ty Gwyn, taith ar awyren yr Arlywydd Air Force One, gêm  pêl fas yn Ohio ac ymweliadau arbennig gan Samantha Cameron a Michelle Obama.