Prif Weinidog Japan, Yoshihiko Noda, yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Tokyo heddiw wrth i bobl ledled y wlad gofio blwyddyn union ers y daeargryn a’r Tsunami (AP Photo/Shuji Kajiyama)
Mae pobl ym mhob rhan o Japan heddiw’n cofio’r daeargryn a’r tsunami anferth a drawodd flwyddyn union yn ôl gan ladd dros 19,000 o bobl ac achosi’r argyfwng niwclear gwaethaf mewn chwarter canrif.

Yng ngweddillion tref Rikuzentaka yng ngogledd-ddwyrain y wlad, fe fu mynach Bwdaidd yn canu cloch am 2.46 i nodi’r union amser ar 11 Mawrth 2011 y trawodd y daeargryn a oedd yn mesur 9.0 ar raddfa Richter.

Ar yr un adeg fe fu pobl yn nhref glan-môr Onagawa wynebu’r môr gan ddal eu dwylo mewn gweddi dawel.

Yn y cyfamser, mewn gwasanaeth cyhoeddus yn Theatr Genedlaethol Tokyo, fe fu’r Ymherawdr Akihito, yr Ymerawdres Mickiko a’r Prif Weinidog Yoshihiko Noda yn sefyll mewn distawrwydd gyda channoedd o bobl eraill mewn du.

Hyd yn oed yn ardal siopa brysur Shibuya yn Tokyo, fe wnaeth cerddwyr aros yn eu hunfan i gynnal munud o dawelwch.

Tsunami

Roedd y daeargryn y cryfaf erioed a gafodd ei gofnodi yn hanes Japan, ac achosodd tsunami a chwyddodd i fwy na 65 troedfedd mewn rhannau o arfordir gogledd-ddwyreiniol y wlad, gan ddinistrio degau o filoedd o gartrefi.

Fe wnaeth y tsunami hefyd ddifrodi’r systemau oeri yn atomfa Dai-ichi Fukushima, gan achosi i dri adweithydd doddi a gollwng ymbelydredd i’r awyr.

Fe fu’n rhaid i 100,000 o drigolion ffoi o’u cartrefi ac mae ardal 12 milltir o amgylch yr atomfa’n dal i fod yn rhy beryglus i fynd iddi.