Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae cyn-ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn Syria heddiw i geisio heddwch yn y wlad.

Fel rhan o ymdrechion rhyngwladol i ddod â’r brwydro i ben, mae wedi bod mewn trafodaethau gydag Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Er bod gorsaf deledu swyddogol y wlad yn dweud i’r trafodaethau fod yn rhai cadarnhaol, mae gwrthwynebwyr Assad yn dweud na ellir ymddiried dim yn yr hyn mae’r arlywydd yn ei ddweud.

Gyda thua 7,500 o bobl wedi cael eu lladd yn y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf, dywed arweinwyr y gwrthryfelwyr ei bod hi’n rhy hwyr i ddeialog.

Eu dadl nhw yw mai’r unig ffordd i rwystro’r trais a’r gormes yw iddyn nhw gael cymorth milwrol er mwyn dymchwel cyfundrefn Assad.

Dywed Kofi Annan, sydd yn Syria fel cennad arbennig ar ran y Cenhedloedd Unedig a’r Gynghrair Arabaidd, fod arno eisiau “proses wleidyddol” i ddod â’r argyfwng i ben ac mae’n rhybuddio yn erbyn ymyrraeth filwrol gan wledydd eraill.