Niger ar fap o Affrica
Mae cyfnod sych yn golygu bod bywydau 13 miliwn o bobol yn y fantol yng Ngorllewin Affrica, yn ôl elusen Brydeinig.

Mi allai degau o filoedd farw mewn gwledydd fel Chad, Mali a Niger, yn ôl Oxfam.

Yn diodde’ o ddiffyg maeth, mae bywydau dros filiwn o blant yn y fantol oherwydd diffyg bwyd.

Bydd angen gwerth £450 miliwn o gymorth i osgoi trychineb ddyngarol, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.