Arlywydd Bashar Assad
Mae’r ymddangos bod dirprwy weinidog olew Syria wedi ymuno â’r gwrthryfelwyr, a throi yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae fideo wedi ymddangos ar YouTube heddiw yn dangos dyn mewn siwt yn dweud mai ef yw Abdo Husameddine, dirprwy weinidog olew Syria, a’i fod wedi gadael y Llywodraeth.

Wrth ddarllen o ddarn o bapur, maen dweud ei fod yn troi ei gefn ar yr Arlywydd a’r Blaid Baath oherwydd agwedd treisgar Assad tuag at ei wrthwynebwyr, sydd wedi lladd miloedd o bobol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydw i, Abdo Husameddine, y dirprwy weinidog olew ac adnoddau mineral, yn cyhoeddi fy mod yn gadael y gyfundrefn ac ymddiswyddo… ac rydw i yn ymuno â gwrthryfel urddasol y bobol,” meddai yn y fideo.

Troi cefn ar yr Arlywydd

Os yw’r fideo yn un dilys, Abdo Husameddine fydd y swyddog uchaf yn Llywodraeth Assad i adael ers dechrau’r gwrthwyfela yn Syria flwyddyn yn ôl.

Mae nifer o aelodau’r fyddin eisoes wedi troi eu cefn ar yr Arlywydd, ond mae mwyafrif swyddogion y Llywodraeth wedi parhau’n deyrngar hyd yn hyn.

Dyw hi ddim yn glir lle cafodd y fideo ei ffilmio – a does dim ymateb wedi dod hyd yn hyn oddi wrth Damascus.