Mae Pennaeth y Lluoedd Arfog wedi mynnu na fydd y strategaeth filwrol yn Afghanitstan yn newid, er gwaetha’ marwolaeth chwech o filwyr Prydain mewn ymosodiad angheuol gan wrthwynebwyr ddoe.

Yn ôl y Cadfridog Syr David Richards, mae Prydain yn mynd i “ddal eu tir” a pharhau â’r gweithgareddau yn yr ardal nes 2014 – er gwaetha’r ymosodiad mwyaf gwaedlyd ers i’r ymgyrch yno ddechrau.

Roedd y chwech milwr ar batrôl ddydd Mawrth pan gafodd eu cerbyd amddiffynnol ei daro gan ffrwydryn yn Helmand, tua 40km i’r gogledd o Lashkar Gah.

Mae disgwyl i enwau’r milwyr gael eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ddiweddarach, wedi i’w teuluoedd gael gwybod yn ffurfiol.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod y newyddion yn nodi “diwrnod difrifol o drist i’n gwlad,” tra bod arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn talu teyrnged “i’r milwyr sydd wedi syrthio, ac i’r rheiny sy’n dal i wasanaethu yn wyneb y peryglon.”

‘Ymgyrch yn angenrheidiol’

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond wedi ategu y bydd Prydain yn cadw at ei strategaeth filwrol, er mwyn cael “datrysiad cynaliadwy” i Afghanistan.

“Mae’r ymgyrch yn un angenrheidiol i ddiogelwch cenedlaethol,” meddai. “Mae cryfhau’r strategaeth amddiffyn yn y blynyddoedd diwethaf yn ateb ein amcanion. Dydi rhoi’r gorau iddi nawr ddim yn opsiwn,” meddai.