Mae protestwyr yn yr Aifft wedi galw ar i bobol y wlad “lenwi pob sgwâr” yn y brifddinas heddiw mewn ymdrech
Hosni Mubarak - "eisiau mynd"
fawr arall i gael gwared ar yr Arlywydd Hosni Mubarak.

Mae swyddogion yr Unol Daleithiau wrthi’n trafod gyda’r Llywodraeth yn Cairo i geisio trefnu ffordd o gael newid ar unwaith.

Un posibilrwydd sy’n cael ei ystyried, yn ôl adroddiadau papur newydd, yw bod llywodraeth tros dro’n cael ei chreu gyda chefnogaeth y fyddin dan arweiniad y Dirprwy Arlywydd, Omar Suleiman.

‘Ofni anhrefn’

Ddoe fe ddywedodd yr Arlywydd Mubarak wrth un o ohebwyr cwmni teledu ABC y byddai’n hoffi mynd ond y byddai hynny’n arwain at “anhrefn” yn y wlad ac at roi grym i fudiad Islamaidd Frawdoliaeth Foslemaidd

Ond, yn ôl rhai, mae hi’n anhrefn yn Cairo eisoes, gyda gangiau’n ymosod ar bobol ac yn dwyn. Gangiau sy’n gefnogol i Mubarak sy’n cael y bai am ymosod ar newyddiadurwyr rhyngwladol.

Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n dweud bod o leia’ 13 o bobol wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro rhwng cefnogwyr y ddwy ochr yn y dyddiau diwetha’.

Yr helyntion

Fe ddechreuodd yr helyntion gyda phrotest fawr ar 25 Ionawr ac mae’r gwrthdystio wedi parhau yng nghanol Cairo ac mewn rhai dinasoedd eraill ers hynny.

Fe ddaeth llond awyren o Brydeinwyr yn ôl o’r Aifft ddoe gan sôn am drais a dwyn ar strydoedd y brifddinas ond mae’r Swyddfa Dramor yn dweud nad yw’r helynt yn effeithio ar ganolfannau twristaidd y Môr Coch.