Mae chwech o filwyr ar goll, a’r gred yw eu bod wedi eu lladd, yn dilyn ymosodiad ar eu cerbyd yn Affganistan.

Dyma’r ymsodiad gwaethaf ar luoedd Prydain yn Affganistan ers 2001.

Roedd y milwyr ar batrol pan fu eu cerbyd mewn ffrwydriad.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod y newyddion “yn ddiwrnod hynod o drist i’n gwlad.”

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 40km i’r gogledd o Lashkar Gah, yn nhalaith Helmand.

Mae teuluoedd y milwyr wedi cael eu hysbysu.