Mitt Romney a'i wraig Ann
Mae Mitt Romney wedi llwyddo o drwch blewyn i gipio chwech o’r 10 o daleithiau fu’n pleidleisio i ddewis cynrychiolydd i’r Gweriniaethwyr i herio’r Arlywydd Barack Obama ym mis Tachwedd.

Fe lwyddodd Romney i gipio y dalaith allweddol Ohio a phum talaith arall gan gynnwys Alaska, Massachusetts, Vermont, Virginia ac Idaho, yn y bleidlais sy’n cael ei galw’n “Super Tuesday”.

Roedd Rick Santorum wedi cipio Oklahoma, Tennessee a Gogledd Dakota. Enillodd Newt Gingrich yn nhalaith Georgia.

Enillodd Romney 33% o’r bleidlais, Rick Santorum 29%, Ron Paul 24% a Newt Gingrich 14%.

Fe fethodd Mitt Romney i gael y fuddugoliaeth ysgubol roedd wedi gobeithio amdani gan olygu y bydd y ras yn debygol o barhau am rai wythnosau, os nad misoedd, i ddod.