Mae Iran wedi dweud y bydd yn caniatáu i archwilwyr y Cenhedloedd Unedig fynd i ganolfan filwrol gyfrinachol i’r de o Tehran.

Mae asiantaeth niwclear y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn amau bod gwaith atomig yn cael ei gyflawni yno, a mewn datganiad dywedodd cynrychiolydd ar ran Iran y bydd y wlad, fel gweithred o ewyllys da, yn caniatáu i swyddogion y Cenhedloedd Unedig ymweld â’r ganolfan yn Parchin.

Roedd archwilio Parchin yn gais allweddol gan swyddogion Asiantaeth Ryngwladol Ynni Atomig a ymwelodd ag Iran ym mis Ionawr a Chwefror. Gwrthododd Iran y cais hwnnw bryd hynny, yn ogystal â cheisiadau i holi swyddogion Iran ynghylch honiadau o ddatblygu arfau yn gudd.

Prysurdeb newydd

Daw’r datblygiad diweddaraf ddiwrnod ar ôl i bennaeth yr Asiantaeth Ynni Atomig, Yukiya Amano, ddatgan pryder bod prysurdeb newydd yn Parchin.

“Gwell hwyr na hwyrach fyddai ymweld â safle Parchin,” meddai Yukiya Amano ddydd Llun, cyn i Iran roi caniatad i’r archwilwyr fynd yno.

“Mae gennym ni wybodaeth gredadwy sy’n awgrymu bod Iran yn mynd i’r afael â datblygu offer ffrwydrol niwclear”, dywedodd wrth newyddiadurwyr yn Fienna.

Ni fu sylw gan yr Asiantaeth Ynni Atomig yn dilyn penderfyniad Tehran i ganiatau archwilwyr.

Gofid

Mae gofid ar hyn o bryd y bydd llu awyr Israel yn ymosod ar Iran mewn ymgais i ddifrodi adnoddau niwclear Iran.

Cyfarfu Barack Obama â Benjamin Netanyahu yn Washington ddydd Llun, a dywedodd yr Arlywydd wrth Brif Weinidog Israel y bydd yr Unol Daleithiau “wastad yn gwylio cefn Israel”, ond mai diplomyddiaeth yw’r ffordd orau o ddatrys yr argyfwng ynghylch arfau niwclear honedig Iran.

Yn ddiweddarach, dywedodd yr Undeb Ewropeaidd fod pump aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, sef UDA, Prydain, China, Ffrainc a Rwsia, yn ogystal â’r Almaen, wedi derbyn cynnig i ailddechrau trafodaethau gydag Iran ar fater arfau niwclear.