Mosgo
Mae anniddigrwydd yn parhau yn Rwsia am y modd yr etholwyd Vladimir Putin i fod yn arlywydd y wlad.

Daeth 20,000 o bobl ynghyd mewn rali ym Mosgo nos Lun i ddangos gwrthwynebiad i ethol Vladimir Putin, ac arestiwyd degau wrth i heddlu gwrth-derfysgaeth ymyrryd a chludo ymaith arweinwyr y brotest a phrotestwyr.

“Ni yw’r grym!” bloeddiodd un o arweinwyr y brotest Alexei Navalny, cyn iddo gael ei arestio.

Yn ôl y goruchwyliwr etholiadau rhyngwladol, Tonino Picula, doedd yr etholiad ddim yn deg.

“Doedd dim cystadleuaeth, a buon nhw’n camddefnyddio adnoddau’r llywodraeth fel bod yr enillydd terfynol yn anochel.”.

Ychwanegodd, “Roedd y cyfryngau darlledu yn amlwg o blaid un ymgeisydd a heb gynnig sylw teg i’r ymgeiswyr eraill”.

Un o arweinwyr y brotest oedd Sergei Udaltsov, a ofynnodd i’r dorf cyn iddo yntau hefyd gael ei arestio,

“Os oedd e’n etholiad rhydd, pam maen nhw wedi boddi’r ddinas gan filwyr?”

Cyhoeddodd Putin ei fuddugoliaeth nos Sul ar ôl i chwarter y pleidleisiau gael eu cyfrif.