Vladimir Putin
Mae na “broblemau difrifol” yn ymwneud â etholiad arlywyddol Rwsia, yn ôl pennaeth y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop (OSCE).

Mae Vladimir Putin wedi hawlio buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad gan  ddychwelyd i fod yn ben ar y Kremlin am dymor o chwe blynedd arall.

Ond yn ôl  Tonino Picula “doedd dim cystadleuaeth go iawn ac roedd camddefnydd o adnoddau’r Llywodraeth wedi sicrhau nad oedd na amheuaeth pwy fyddai’r enillydd.”

Yn ôl Comisiwn Etholiadol Canolig Rwsia, roedd Putin wedi ennill 63% o’r bleidlais ond yn ôl Golos, y corff annibynnol sy’n goruwchwylio etholiadau yn Rwsia, mae adroddiadau’n awgrymu mai tua 50% o’r pleidleisiau a gafodd.

Dywedodd Golos eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau o bobl yn cael eu cludo ar fysys i orsafoedd pleidleisio gwahanol ac yn taro pledlais sawl gwaith yn olynol.

Protest

Mae sylwadau OCSE wedi sbarduno’r gwrthwynebwyr i gynnal rhagor o brotestiadau – mae nifer wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf. Mae protest wedi ei threfnu yn Sgwâr Pushkin ym Mosgo heno.

Yn ôl rhai adroddiadau fe fydd hyd at 12,000 o blismyn a milwyr ar ddyletswydd yn ystod y brotest.

Brwydr lân ac agored

Neithiwr, cyhoeddodd Putin o flaen torf o gefnogwyr ym Mosgo eu bod nhw wedi curo gwrthwynebwyr oedd yn benderfynol o “chwalu grym Rwsia”.

Roedd Putin yn geffyl blaen o’r cychwyn cyntaf ac yn ystod ei 12 mlynedd yn y Kremlin roedd wedi magu delwedd gyhoeddus fel y dyn oedd yn mynd i roi sefydlogrwydd i Rwsia ac amddiffyn y wlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Hawliodd Putin fuddugoliaeth ar ôl i lai na chwarter y pleidleisiau gael eu cyfri.

Wrth annerch ei gefnogwyr dywedodd Vladimir Putin: “Dywedais i y byddwn ni’n ennill a dyna beth rydym ni wedi gwneud. Rydym ni wedi ennill mewn brwydr lân ac agored”.