Brazzaville, Congo
Mae o leiaf 150 o bobol wedi eu lladd yng Ngweriniaeth y Congo ar ôl i depot arfau ffrwydro.

Ysgwyddodd y ffrwydrad dai yn y brifddinas, Brazzaville, ac roedd yn weledol ar draws Afon Congo yn Kinshasa, prifddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Bu’n rhaid i’r gweinidog amddiffyn Charles Zacharie Boawo ymddangos ar y teledu i leddfu’r ofn fod rhyfel neu coup d’etat wedi dechrau yno.

“Roedd tân mewn depot olew,” meddai. “Mae ein harbenigwyr yn ceisio diffodd y tân ar hyn o bryd fel nad oes ffrwydrad arall.”

Yn ôl adroddiadau mae pobol o ogledd y ddinas lle y digwyddodd y ffrwydrad wedi ffoi i’r de.

Yn ôl un diplomydd Ewropeaidd roedd dros 1,500 wedi eu hanafu yn y ffrwydrad.