Mae Llywodraeth Libya wedi ymddiheuro ar ôl ymosodiad ar feddau Prydeinwyr fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Dramor, Jeremy Browne, ei fod yn deall pam fod pobol wedi eu cythruddo gan yr ymosodiad ar y beddau yn ninas ddwyreiniol Benghazi.

Dywedodd nad oedd yr ymosodiadau wedi eu hanelu at Brydeinwyr neu Gristnogion yn benodol, ac nad oedden nhw’n cynrychioli ymateb pobol Libya i’r rhyfel yno’r llynedd.

“Mae’n hanes ofnadwy ac fe fydd pobol yn cael eu brawychu gan y delweddau,” meddai.

“Roedd cenhedlaeth fy nhad-cu wedi chwarae rhan arwrol yn y rhan honno o Affrica yn yr Ail Ryfel Byd.

“Ond mae awdurdodau Libya wedi eu harswydo hefyd. Maen nhw wedi ymddiheuro ac wedi addo i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

“Rydw i ar ddeall bod beddi wedi eu halogi y tu hwnt i rai Prydeinwyr a Christnogion. Dydw i ddim am i bobol feddwl bod Libya yn anniolchgar o gwbl.”

Mae dros 1,200 o filwyr o’r Gymanwlad wedi eu claddu yn Benghazi. Roedden nhw’n rhan o’r ymgyrch i reoli Libya a’r Aifft rhwng 1941 ac 1943.

Yn ôl papur newydd y Mail on Sunday digwyddodd yr ymosodiadau dros gyfnod o ddeuddydd yr wythnos diwethaf.

Cafodd fideo ei recordio gan un o’r dynion fu’n rhan o’r ymosodiad a’i gyhoeddi ar y we.

Dywedodd y Comisiwn sy’n gwarchod beddi milwyr y Gymanwlad y bydd y beddi’n cael eu hatgyweirio.