Rush Limbaugh
Mae’r sylwebydd ceidwadol dadleuol, Rush Limbaugh, wedi gorfod ymddiheuro ar ôl galw myfyrwraig yn “slwten” a “phutain” ar ei raglen radio.

Roedd wedi ei feirniadu’n hallt gan wleidyddion Gweriniaethol a Democratiaid ac roedd hysbysebwyr wedi bygwth torri cysylltiad â’i raglen radio.

Roedd Sandra Fluke, 30, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Georgetown yn y brifddinas Washington, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn y Gyngres o blaid prifysgolion yn talu am offer atal cenhedlu i fyfyrwyr.

“Doeddwn i ddim wedi dewis fy ngeiriau yn ddoeth, ac wrth geisio bod yn ffraeth roeddwn i wedi creu dadl,” meddai Rush Limbaugh ar ei wefan.

“Rydw i’n ymddiheuro yn daer i Ms Fluke am fy newis sarhaus o eiriau.”

Roedd r Arlywydd Barack Obama, sydd wedi galw ar sefydliadau i ddarparu dulliau atal genhedlu, wedi ffonio Sandra Fluke ddydd Gwener er mwyn datgan ei gefnogaeth iddi.

Mae Democratiaid a Gweriniaethwyr wedi awgrymu y gallai’r ddadl arwain at gynnydd mawr mewn cefnogaeth at Barack Obama ymysg merched.

Daeth sylwadau dadleuol Rush Limbaugh ar ei raglen radio ddydd Mercher.

“Beth mae’n ei ddweud am y myfyriwr yma… sydd wedi mynd o flaen pwyllgor Cyngresol gan ddweud fod rhaid iddi gael ei thalu i gael rhyw? Mae hynny’n ei gwneud hi’n slwten, tydi? Yn butain? Mae hi eisiau cael ei thalu i gael rhyw.”

Y diwrnod canlynol dywedodd: “Os oes rhaid i ni dalu am hyn rydyn ni eisiau rhywbeth yn yn ôl, Ms Fluke. Rydyn ni eisiau fideos o’r rhyw yma ar-lein fel ein bod ni’n cael gwerth ein harian.

“Pwy oedd yn prynu eich condomau yn yr ysgol uwchradd?”