Gwrthdarodd dau drên yn ne Gwlad Pwyl, gan ladd o leiaf 15 o bobol ac anafau 54 arall, yn y damwain gwaethaf o’i fath ar reilffyrdd y wlad ers blynyddoedd.

Roedd y ddau drên yn teithio ar yr un trac i gyfeiriad ei gilydd cyn gwrthdaro, yn ôl Andrzej Pawlowski, aelod o fwrdd y cwmni trenau PKP.

Dywedodd na ddylai un o’r trenau, oedd yn teithio i’r de o Warsaw i Krakow neithiwr, fod ar y trac.

Roedd y trên arall yn teithio o ddinas ddwyreiniol Przemysl i Warsaw.

Nid yw’n amlwg ar hyn o bryd pam oedd y trên a oedd yn teithio i gyfeiriad y de ar y trac anghywir.

Dywedodd y Prif Weinidog, Donald Tusk, mai dyna’r “drychineb trên mwyaf ofnadwy” yn hanes diweddar y wlad wrth ymweld y bore ma.