Marie Colvin
Mae swyddogion y Cilgant Coch yn Syria wedi trosglwyddo cyrff dau newyddiadurwr tramor gafodd eu lladd yn y wlad i’w llysgenadaethau.

Derbyniodd llysgennad Ffrainc, Eric Chevalier, gorff y ffotograffydd o Ffrainc, Remi Ochlik, a derbyniodd llysgennad o Wlad Pwyl gorff newyddiadurwr y Sunday Times, yr Americanes Marie Colvin.

Mae Gwlad Pwyl yn cynrychioli buddion yr Unol Daleithiau yn Syria.

Fe fu farw’r ddau newyddiadurwr ar 22 Chwefror ar ôl cael eu caethiwo yn ardal Baba Amr dinas Homs, oedd yn cael ei sielio gan fyddin y wlad.

Dywedodd cyfarwyddwr y Cilgant Coch yn Syria, Syria Abdel-Rahman al-Attar, fod y ddau gorff wedi eu cludo i Ysbyty yn Damascus.

Does dim cadarnhad eto pryd y bydd y cyrff yn cael eu hedfan allan o’r wlad.