Mae degau o filoedd o wrthdystwyr wedi bod gorymdeithio trwy sawl tref a dinas yn Yemen yn erbyn arlywydd y wlad.

 Yn ôl tyst, mae’r heddlu wedi defnyddio tân a nwyon dagrau i geisio gwasgaru’r dyrfa.

 Cadarnhaodd swyddogion diogelwch fod gwrthdystiwr wedi ei anafu’n ddifrifol gan danau’r heddlu. Cafodd dau arall hefyd eu hanafu yn nhref dwyreiniol Mukalla.

 Yn y brifddinas Sanaa, dechreuodd miloedd o wrthwynebwyr a chefnogwyr yr Arlywydd ymladd a thaflu cerrig at ei gilydd. Ond camodd yr heddlu i mewn a doedd dim adroddiadau o anafiadau.

 Hofrenyddion

 Roedd presenoldeb y lluoedd diogelwch yn amlwg o gwmpas yr Weinidogaeth Gartref a’r Central Bank, gydag hofrenyddion heddlu yn hedfan dros rai mannau.

 Mae protestiadau yn erbyn y llywodraeth wedi dilyn patrwm tebyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Tunisia a’r Aifft dros yr wythnosau diwethaf.

 Yn Yemen, dechreuodd y protestiadau mewn sawl tref ar ôl i’r Arlywydd Saleh geisio tawelu’r galwadau arno i ildio trwy addo peidio ymgeisio am dymor newydd o arlywyddiaeth yn 2013, na throsglwyddo grym i’w fab.

 Yn ôl rhai protestwyr, dydyn nhw ddim yn ymddiried yn yr Arlywydd i gadw at ei air, ac maen nhw wedi galw arno i ildio ar unwaith.