Philadelphia
Mae Offeiriad Catholig wedi ei arestio yn ninas Philadelphia ar ôl cael ei ddal yn chwilio am butain.

Dywedodd yr heddlu fod y Parch Patrick McCormick 48, o Eglwys St Timothy, wedi mynd at heddwas oedd yn smalio bod yn butain a chynnig arian iddi gael rhyw gydag ef.

Cafodd ei ddedfrydu i 18 awr o wasanaeth cymunedol, a thalu dirwy o $200.

Dywedodd llefarydd ar ran Archesgobaeth Philadelphia fod beth ddigwyddodd yn “peri gofid” a bod Patrick McCormick wedi ei atal o’i swydd am y tro.