Barack Obama
Mae Barack Obama wedi awgrymu y bydd yr Unol Daleithiau yn ymosod ar Iran os nad yw’r weriniaeth Islamaidd yn rhoi’r gorau i ddatblygu arfau niwclear.

“Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn annerbyniol fod gan Iran arfau niwclear, ac rydw i’n credu fod llywodraethau Iran ac Israel yn deall nad siarad gwag yw hynny,” meddai.

“Dydw i ddim yn mynd i ddal yn ôl.”

Ychwanegodd fod Iran ac Israel yn deall y bydd “elfen filwrol” i ymateb yr Unol Daleithiau wrth geisio atal Iran rhag datblygu arfau niwclear.

Ond rhybuddiodd yr Arlywydd na ddylai Israel ymosod ar ganolfannau niwclear Iran ar ei phen ei hun.

Dywedodd Barack Obama wrth gylchgrawn Atlantic y byddai ymosodiad o’r fath yn cynyddu’r cydymdeimlad at Iran ac yn ynysu Israel ymhellach.

Fe fydd yr Arlywydd yn cwrdd â Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ddydd Llun er mwyn trafod y camau nesaf.