Costa Allegra
Mae teithwyr ar y llong bleser Eidalaidd Costa Allegra wedi cyrraedd porthladd yn y Seychelles heddiw ar ôl colli pŵer yn dilyn tân.

Roedd 31 o Brydeinwyr ymhlith y 627 ar fwrdd y llong oedd wedi bod heb bŵer ers tridiau yng Nghefnfor India.

Mae’r llong yn rhan o gwmni Costa Cruises sy’n berchen y Costa Concordia a darodd yn erbyn creigiau ger yr Eidal ym mis Ionawr, gan ladd 32 o bobl.

Er na chafodd neb eu hanafu yn y tân, mae’n debyg bod yr amodau ar fwrdd  y Costa Allegra wedi bod yn wael, gyda dim cyflenwad trydan na chyfleusterau ymolchi a dim ond bara a chaws i’w fwyta.

Bu’n rhaid i’r Costa Allegra gael ei thynnu i’r porthladd gan gwch arall.