Mitt Romney
Mae Mitt Romney wedi hawlio buddugoliaeth yn nhalaith Michigan ac Arizona heddiw, yn etholiadau’r Gweriniaethwyr yn y ras am yr arlywyddiaeth.

Mae ei fuddugoliaeth yn ergyd i’w gydymgeisydd Rick Santorum, ac yn golygu mai Romney yw’r ceffyl blaen  yn y ras i herio’r Arlywydd Barack Obama  yn yr etholiad ym mis Tachwedd.

Fe fydd yn rhoi hwb i’w ymgyrch cyn etholiadau mewn 10 talaith wythnos nesaf, sy’n cael ei adnabod fel Super Tuesday.