Paul Conroy mewn apel fideo YouTube
Mae’r newyddiadurwr o Brydain Paul Conroy wedi llwyddo i ddianc o ddinas Homs yn Syria i Libanus, yn ôl ei dad.

Cafodd Paul Conroy, sy’n newyddiadurwr gyda’r Sunday Times, ei anafu wythnos ddiwethaf yn dilyn ymosodiad bom a laddodd gohebydd y papur newydd Marie Colvin a’r ffotograffydd o Ffrainc Remi Ochlik.

Dywedodd tad Paul Conroy, Les, ei fod wedi clywed bod ei fab wedi gadael Homs ond nad oedd wedi siarad ag o hyd yn hyn. Yn ôl adroddiadau roedd gwrthryfelwyr Syria wedi ei helpu i adael rhanbarth Baba Amr yn Homs.

Mae na adroddiadau hefyd bod y newyddiadurwraig o Ffrainc, Edith Bouvier o bapur Le Figaro, a oedd hefyd wedi cael ei hanafu yn yr ymosodiad gan luoedd llywodraeth Syria, wedi llwyddo i adael y wlad.

Apêl

Roedd Paul Conroy, sy’n 47 oed ac yn dad i dri o blant, wedi gwneud apêl yn ddiweddarach yr wythnos hon mewn fideo a ymddangosodd ar YouTube.

Dywedodd ei fod wedi anafu ei goes a’i fod yn cael cymorth gan staff meddygol Byddin Rhyddid Syria, ond ei fod am roi gwybod i’w deulu a’i ffrindiau ei fod yn iawn.

Roedd timau o’r Syrian Arab Red Crescent wedi mynd i Homs ddoe er mwyn symud y rhai oedd wedi eu hanafu ond mae’n debyg eu bod nhw wedi gadael heb fynd â’r newyddiadurwyr gyda nhw.

Dywedodd gwraig Paul Conroy, Kate, ddydd Sul bod ei gŵr wedi gwrthod cynnig i adael Homs gyda’r Syrian Arab Red Crescent gan nad oedd yn gallu “ymddiried ynddyn nhw”.

‘Mesurau llym’

Mae dinas Homs wedi dioddef ymosodiadau didrugaredd gan luoedd Syria sy’n targedu gwrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad.

Ddoe, roedd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i dynhau sancsiynau economaidd ar Syria.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fe fydd y mesurau llym yn cynyddu’r pwysau economaidd ar yr Arlywydd Assad.