Map o Unol Daleithiau America
Mae stormydd enfawr o eira’n ysgubo trwy ganolbarth yr Unol Daleithiau heddiw, gan gau meysydd awyr, ysgolion, colegau a swyddfeydd llywodraeth.

Mae strydoedd prysur dinasoedd Dallas, Oklahoma City a Tulsa wedi dod i stop dan yr eira – ac mae disgwyl bod rhagor ar y ffordd.

Yn ôl y rhagolygon, mae dwy droedfedd arall o eira ar y ffordd i Chicago, mae Indianapolis yn disgwyl modfedd o rew, ac mae disgwyl rhagor o’r ddau yn y gogledd-ddwyrain, ar ganol gaeaf sy’n argoeli i fod gyda’r oeraf mewn hanes i America.

Mae’r storm wedi ymestyn ar draws 2,000 o filltiroedd erbyn hyn, o Texas i Maine, ac yn ymestyn dros draean o’r wlad.

Mae’r gwyntoedd wedi codi’n uwch na 60 milltir yr awr yn Texas, ac yn Chicago caewyd yr ysolion oherwydd yr eira am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd.

Yn ôl Jose Santiago, prif gyfarwyddwr swyddfa rheoli argyfwng Chicago, dylai pawb “fod yn barod ar gyfer storm a fydd yn cael ei gofio am amser hir.”

Daeth yr eira cyntaf yn annisgwyl iawn o’r Rockies i ddisgyn dros Texas ac Oklahoma, ond mae disgwyl i’r storm symud yn bellach i’r gogledd orllewin cyn hir, gan ddod â mwy o eira i ardaloedd sy’n llai abl i ddelio ag ef.

Mae rhai trefi sydd wedi eu taro sawl tro gan stormydd eira ers mis Rhagfyr yn poeni na fydd ganddyn nhw unman i roi rhagor o eira.