Map o Afghanistan
Mae milwyr Prydain ac Afghanistan wedi lladd 14 o wrthryfelwyr a dal 15 eraill yn ystod cyrch wyth wythnos i chwalu un o gadarnleoedd y Taliban yn rhanbarth Helmand.

Roedd cyrch Black Winter yn targedu cadarnle yn ne orllewin Nad-e Ali rhwng pentrefi Zangal a Saidabad.

Yn ystod yr wyth wythnos roedd milwyr Prydain ac Afghanistan wedi brwydro yn erbyn y Taliban ar 113 o achlysuron, gan ganfod 22 ffrwydradau.

Fe gafodd pum man diogelwch eu hadeiladu, ynghyd â phont newydd yn yr ardal er mwyn galluogi lorïau a cherbydau arfog i deithio’n haws.

Mae arweinydd milwyr Prydain yn ystod y cyrch, yr Is-gyrnol Colin Weir wedi dweud bod y cyrch yn llwyddiant gyda’r ardal o dan reolaeth Llywodraeth Afghanistan erbyn hyn.

“Doedden ni ond yn rheoli’r tir oedden ni’n sefyll arno pan gyrhaeddom Nad-e Ali. Ond erbyn hyn ry’n ni’n rheoli’r ardal o amgylch Saidabad,” meddai’r Is-gyrnol Colin Weir.

Bomio

Yn y cyfamser, mae’r gwrthryfelwyr yn dal i daro’n ôl wrth i fom car ladd naw person yn ninas Peshawar yng ngogledd orllewin Pacistan.

Fe gafodd ugain person arall eu hanafu yn y ffrwydrad ar ffordd sy’n arwain at y ffin sydd rhwng Pacistan ac Afghanistan.

Dyma’r trydydd bom i ffrwydro yn y ddinas o fewn wythnos wrth i’r gwrthryfelwyr geisio herio honiadau’r heddlu eu bod nhw’n llwyddo yn eu brwydr yn erbyn y gwrthryfelwyr.

Mae awdurdodau Pacistan wedi bod yn targedu’r ardaloedd ar y ffin rhwng y ddwy wlad i geisio cael rheolaeth ar y gwrthryfelwyr sydd â chadarnleoedd yn yr ardal.