Mae’r ail berson wedi marw o ffliw adar yn China mewn llai na mis, yn ôl y weinyddiaeth iechyd.

Dywedodd y weinyddiaeth fod y claf wedi marw heddiw yn rhanbarth Guizhou yn y de-orllewin ar ôl mynd i’r ysbyty ar 6 Ionawr.

Yn ôl radio RTHK Hong Kong roedd y claf yn ddyn 39 oed oedd yn dweud nad oedd wedi bod ar gyfyl da pluog.

Fe fu farw gyrrwr bws yn ninas Shenzhen, sydd ar y ffin â Hong King, o ffliw adar ar 31 Rhagfyr. Dyna’r achos marwol cyntaf o ffliw adar yn China ers 18 mis.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd llywodraeth Fietnam fod y person cyntaf wedi marw o ffliw adar yno ers bron i ddwy flynedd.

Fe fuodd bachgen dwy flwydd oed hefyd farw yn Cambodia o’r firws yr wythnos diwethaf.