Hosni Mubarak
Mae Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu adeg yr etholiadau nesaf ym mis Medi.
Cyhoeddodd ar y teledu am 9pm heno y bydd yn aros yn ei swydd tan hynny er mwyn sicrhau bod y trawsnewidiad o un weinyddiaeth i’r llall yn un esmwyth.
Mae yna bryder y bydd grwpiau eithafol yn llenwi’r blwch os yw’n gadael yn syth, fel y mae rhai protestwyr wedi galw amdano.
Daw’r datganiad wrth i fwy nag 250,000 o bobol lenwi prif sgwâr Cairo heddiw yn y brotest fwyaf o’i bath hyd yn hyn.
Roedd y protestwyr yn canu caneuon cenedlaetholgar, yn dawnsio, taro drymiau ac yn gwaeddi “dos, dos, dos!” wrth i hofrenyddion milwrol suo uwch eu pennau.
Mae protestiadau llai wedi eu cynnal mewn o leiaf pum dinas arall ledled yr Aifft, ac yn ôl y trefnwyr mae dros 1 miliwn wedi cymryd rhan.
Cadarnhaodd y fyddin ddoe na fydden nhw’n saethu at y protestwyr ac er bod tanciau i’w gweld ym mhob cornel o sgwâr Tahrir yn Cairo roedd pobol yn rhydd i fynd a dod fel y mynnon nhw.
Yr Arlywydd Hosni Mubarak, 82, yw’r ail arweinydd o’r Dwyrain Canol i gael ei orfodi o’i swydd eleni, ar ôl i arlywydd Tunisia orfod ffoi ei wlad fis diwethaf.
Mae arweinwyr eraill y dwyrain canol eisoes yn teimlo dan fygythiad – penderfynodd Brenin Jordan, King Abdullah II, ddiswyddo ei lywodraeth heddiw ar ôl protestiadau tebyg.