Y Costa Concordia, a drôdd drosodd ar ôl taro creigiau nos Wener (AP/Giorgio Fanciulli, Giglionews)
Mae deifwyr wedi cael hyd i ddau gorff arall ar fwrdd y llong deithiau Costa Concordia gerllaw arfordir yr Eidal.

Golyga hyn fod o leiaf bump o bobl wedi marw ar ôl i’r llong foethus daro creigiau ger ynys Giglio nos Wener gyda 4,200 o bobl ar ei bwrdd.

Roedd cyrff tri o bobl – dau o Ffrainc ac un o Beriw – eisoes wedi cael eu codi o’r môr fore ddoe.

Yn ôl gwylwyr glannau’r Eidal, cafwyd hyd i gorff dau berson oedrannus yn o ystafelloedd bwyta’r llong a oedd o dan y dŵr.

Yn gynharach heddiw, roedd cwpl o Dde Corea ac aelod o griw’r llong wedi cael eu hachub ar ôl cael eu caethiwo yn y llong.

Credir bod tua 15 o bobl yn dal ar goll erbyn heno.

Wrth i’r ymchwilio barhau i achos y llongddrylliad, mae’r capten Francesco Schettino’n dal i gael ei holi a gallai wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad, gadael llong ac achosi llongddrylliad. Ond dywed y capten fod y siartiau morwrol yn anghywir, ac i’r llong daro creigiau mewn man yr oedd y siartiau’n ei ddangos fel lle diogel.