Muhammad Ali a'i wraig Lonnie yn croesawu'r gwesteion i'r dathliadau (AP Photo/The Muhammad Ali Center)
Mae cannoedd o westeion wedi bod yn dathlu penblwydd Muhammad Ali yn 70 oed yn ei dref enedigol Louisville, Kentucky.

Pan gyrhaeddodd y pencampwr byd y parti yng Nghanolfan Muhammad Ali yn y dref, dechreuodd y dorf ei gymeradwyo’n wyllt a chanu Penblwydd Hapus.

Ymysg y gwesteion mae John Calipari, hyfforddwr tîm pêl-fasged Prifysgol Kentucky. Dywedodd iddo dyfu i fyny fel un o ffans Ali, a bod ganddo feddwl uchel ohono oherwydd ei hyder. Y canwr roc John Mellencamp sy’n diddanu’r dorf.

Fe fydd penblwydd y pencampwr bocsio yn 70 oed ddydd Mawrth.