Tîm o ddeifwyr ar eu ffordd i ailddechrau chwilio'r llong (AP Photo/Gregorio Borgia)
Mae’r chwilio wedi ailddechrau am hyd at 40 o bobl sy’n dal ar goll ar ôl i’r llong fordeithiau Costa Concordia droi drosodd gerllaw arfordir yr Eidal nos Wener.

Mae timau o ddeifwyr yn parhau i chwilio am oroeswyr a allai ddal i fod wedi eu caethiwo yn y rhan o’r llong sydd o dan y dŵr.

Llwyddodd ymladdwyr tân i achub cwpl o Dde Corea a oedd mewn caban ddau lawr uwchben lefel y môr, ac mae Eidalwr hefyd wedi cael ei ddarganfod yn fyw yn y llong.

Fe wnaeth o leiaf dri o bobl foddi yn y llongddrylliad.

Mae capten y llong yn cael ei holi gan yr heddlu’r Eidal, ar ôl iddo gael ei arestio neithiwr. Mae honiadau iddo adael y llong pan oedd teithwyr yn dal ar ei bwrdd, ac y gallai wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad.

Roedd y llong wedi mynd i drafferthion nos Wener ar ôl taro creigiau ychydig gannoedd o lathenni o ynys Giglio gerllaw arfordir Tuscany. Achosodd y gwrthrdrawiad rwygiad 150 troedfedd o hyd ar waelod y llong, gan beri i’r llong wyro i’r dde a dymchwel.

Cafodd y mwyafrif llethol o’r 4,000 o bobl ar ei bwrdd eu hachub yn ddiogel, a chafwyd cadarnhad nad oes neb o Brydain ymhlith y rhai sydd ar goll.