Y Costa Concordia'n troi drosodd neithiwr (AP/Giorgio Fanciulli, Giglionews)
Mae deifwyr yn chwilio am tua 70 o bobl sy’n dal ar goll ar ôl i long anferthol droi drosodd oddi ar arfordir yr Eidal neithiwr.

Fe fu’n rhaid i 4,200 o bobl ddianc o’r llong bleser foethus Costa Concordia ar ôl iddi fynd i drafferthion wrth ynys fechan Giglio gerllaw Tuscany.

Mae o leiaf dri o bobl wedi boddi yn y trychineb. Cafodd eu cyrff eu codi o’r môr y bore yma. Roedd dau ohonyn nhw o Ffrainc a’r llall o Beriw.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, roedd 24 o bobl o Brydain ar ei bwrdd.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr glannau’r Eidal eu bod yn ofni y gallai’r bobl sydd ar goll fod wedi cael eu dal yng nghrombil y llong.

Dywedodd fod yr achubwyr eisoes wedi chwilio’n helaeth o gwmpas y llong, ac y byddai cyrff wedi cael eu gweld pe bai pobl wedi disgyn i’r môr, ac felly mai’r unig le arall y gallen nhw fod oedd yn y llong ei hun.