Mae gwerth yr Ewro wedi gostwng ar y marchnadoedd arian wrth i sgoriau credyd Ffranic ac wyth o wledydd eraill yr arian sengl gael eu hisraddio.

Mae Ffrainc wedi colli ei sgôr gredyd AAA, sy’n debyg o olygu y bydd hi’n costio mwy i lywodraeth y wlad fenthyg arian.

Gall hyd gael oblygiadau difrifol i’r arian sengl gan fod Ffranc yn rhannol gyfrifol am warantu’r gronfa i achub yr Ewro.

Dywedodd gweinidog cyllid Ffraint, Francois Baroin, fod yr israddio’n “newyddion drwg” i’r wlad ond nad oedd yn “drychineb”.

Ond dywedodd Standard & Poor, yr asiantaeth sy’n dyfarnu sgoriau credyd gwladwriaethau iddynt israddio ar sail eu hasesiad nad oedd llywodraethau Ewrop wedi gwneud digon i fynd i’r afael ag argyfwng parth yr Ewro.

Mae cyflwr economi gwlad Groeg mor ddifrifol fel na chafodd ei chynnwys yn yr asesiad diweddaraf