Y Costa Concordia'n troi drosodd neithiwr (AP/Giorgio Fanciulli, Giglionews)
Mae o leiaf dri o bobl wedi boddi ar ôl i long bleser foethus droi drosodd gerllaw arfordir yr Eidal.

Aeth y Costa Condordia, a oedd yn cludo dros 4,000 o deithwyr, i drafferthion ychydig gannoedd o lathenni o ynys Giglio wrth arfordir Tuscany neithiwr.

Dywed adroddiadau fod rhai degau o bobl o Brydain ar ei bwrdd.

Bu badau achub a hofrenyddion yn helpu’r teithwyr i adael y llong ar ôl iddi ddechrau gwyro i’r dde a dŵr fynd i mewn iddi.

Dywed gwylwyr y glannau’r Eidal fod o leiaf dri chorff wedi cael ei godi o’r môr, ac mae ofnau fod o leiaf dri arall wedi marw.

Dywed perchnogion y llong, Costa, nad oes ganddyn nhw wybodaeth am achos y digwyddiad hyd yma.

Roedd y llong yn hwylio i gyfeiriad Savona yng ngogledd yr Eidal mewn mordaith a oedd i fod i gynnwys Marseille, Barcelona, Palma de Mallorca, Cagliari a Palermo.