Anders Behring Breivik
Mae llys yn Norwy wedi gofyn am adroddiad seiciatrig newydd ar y llofrudd Anders Behring Breivik, ar ôl i adroddiad cynharach gasglu ei fod yn gyfreithiol wallgof.

Dywedodd y Barnwr Wenche Elizabeth Amtzen yn Oslo fod angen archwiliad arall o Breivik, o ystyried yr ymateb gwael i’r canfyddiadau gwreiddiol, sy’n awgrymu y dylid anfon y llofrudd i gael gofal seiciatrig yn hytrach na charchar.

Mae Breivik wedi cyfaddef iddo ffrwydro bom cyn mynd ati i saethu pobol mewn cyflafan laddodd 77 o bobol ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae Breivik yn gwadu ei fod yn euog o unrhyw drosedd, ac yn mynnu ei fod yn gadfridog mewn mudiad amddiffyn sy’n ceisio dymchwel llywodraethau Ewropeaidd a gosod trefn mwy “gwladgarol” yn ei lle fyddai’n golygu cael gwared ar fewnfudwyr Mwslemaidd o’r cyfandir.

Nid yw’r ymchwilwyr wedi medru dod o hyd i dystiolaeth bod y fath fudiad yn bodoli, ac maen nhw’n barnu bod Breivik wedi trefnu’r ymosodiadau a’u rhoi ar waith ar ei ben ei hun.